Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad.

30. Myfi a'r Tad, un ydym.”

31. Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef.

32. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos p'run ohonynt yr ydych am fy llabyddio?”

33. Atebodd yr Iddewon ef, “Nid am weithred dda yr ydym am dy labyddio, ond am gabledd, oherwydd dy fod ti, a thithau'n ddyn, yn dy wneud dy hun yn Dduw.”

34. Atebodd Iesu hwythau, “Onid yw'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, ‘Fe ddywedais i, “Duwiau ydych” ’?

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10