Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 10:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond yr oedd eraill yn dweud, “Nid geiriau dyn â chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?”

22. Yna daeth amser dathlu gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf,

23. ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon.

24. Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, “Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen.”

25. Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi.

26. Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 10