Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 7:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oherwydd tystir amdano:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

18. Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol.

19. Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.

20. Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.

21. Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho:“Tyngodd yr Arglwydd,ac nid â'n ôl ar ei air:‘Yr wyt ti'n offeiriad am byth.’ ”

22. Yn gymaint â hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 7