Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Urdd Offeiriadol Melchisedec

1. Cyfarfu'r Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad i'r Duw Goruchaf, ag Abraham wrth iddo ddychwelyd o daro'r brenhinoedd, a bendithiodd ef;

2. a rhannodd Abraham iddo yntau ddegwm o'r cwbl. Yn gyntaf, ystyr ei enw ef yw “brenin cyfiawnder”; ac yna, y mae'n frenin Salem, hynny yw, “brenin tangnefedd”.

3. Ac yntau heb dad, heb fam, a heb achau, nid oes iddo na dechrau dyddiau na diwedd einioes; ond, wedi ei wneud yn gyffelyb i Fab Duw, y mae'n aros yn offeiriad am byth.

4. Ystyriwch pa mor fawr oedd y gŵr hwn y rhoddwyd iddo ddegwm o'r anrhaith gan Abraham y patriarch.

5. Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn ôl y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt.

6. Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo.

7. A heb ddadl o gwbl, y lleiaf sy'n cael ei fendithio gan y mwyaf.

8. Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw.

9. Gellir dweud hyd yn oed fod Lefi, derbyniwr y degwm, yntau wedi talu degwm drwy Abraham,

10. oblegid yr oedd ef eisoes yn llwynau ei gyndad pan gyfarfu Melchisedec â hwnnw.

11. Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd—oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl—pa angen pellach oedd i sôn am offeiriad arall yn codi, yn ôl urdd Melchisedec ac nid yn ôl urdd Aaron?

12. Oblegid os yw'r offeiriadaeth yn cael ei newid, rhaid bod y Gyfraith hefyd yn cael ei newid.

13. Oherwydd y mae'r un y dywedir y pethau hyn amdano yn perthyn i lwyth arall, nad oes yr un aelod ohono wedi gweini wrth yr allor;

14. ac y mae'n gwbl hysbys fod ein Harglwydd ni yn hanu o lwyth Jwda, llwyth na ddywedodd Moses ddim am offeiriad mewn perthynas ag ef.

15. Y mae'r ddadl yn eglurach fyth os ar ddull Melchisedec y bydd yr offeiriad arall yn codi,

16. a'i offeiriadaeth yn dibynnu, nid ar gyfraith sydd â'i gorchymyn yn ymwneud â'r cnawd ond ar nerth bywyd annistryw.

17. Oherwydd tystir amdano:“Yr wyt ti'n offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

18. Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol.

19. Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.

20. Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw.

21. Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho:“Tyngodd yr Arglwydd,ac nid â'n ôl ar ei air:‘Yr wyt ti'n offeiriad am byth.’ ”

22. Yn gymaint â hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach.

23. Y mae'r lleill a ddaeth yn offeiriaid yn lluosog hefyd, am fod angau yn eu rhwystro i barhau yn eu swydd;

24. ond y mae gan hwn, am ei fod yn aros am byth, offeiriadaeth na throsglwyddir mohoni.

25. Dyna pam y mae ef hefyd yn gallu achub hyd yr eithaf y rhai sy'n agosáu at Dduw trwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol drostynt.

26. Dyma'r math o archoffeiriad sy'n addas i ni, un sanctaidd, di-fai, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei ddyrchafu yn uwch na'r nefoedd;

27. un nad oes rhaid iddo yn feunyddiol, fel yr archoffeiriaid, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros rai'r bobl. Oblegid fe wnaeth ef hyn un waith am byth pan fu iddo'i offrymu ei hun.

28. Oherwydd y mae'r Gyfraith yn penodi yn archoffeiriaid ddynion sy'n weiniaid, ond y mae geiriau'r llw, sy'n ddiweddarach na'r Gyfraith, yn penodi Mab sydd wedi ei berffeithio am byth.