Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio?

2. Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd?

3. A ydych mor ddwl â hyn? Wedi ichwi ddechrau trwy'r Ysbryd, a ydych yn awr yn ceisio pen y daith trwy'r cnawd?

4. Ai yn ofer y cawsoch brofiadau mor fawr (os gallant, yn wir, fod yn ofer)?

5. Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll?

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 3