Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ai Cadw Gofynion Cyfraith, ynteu Ffydd?

1. Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio?

2. Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd?

3. A ydych mor ddwl â hyn? Wedi ichwi ddechrau trwy'r Ysbryd, a ydych yn awr yn ceisio pen y daith trwy'r cnawd?

4. Ai yn ofer y cawsoch brofiadau mor fawr (os gallant, yn wir, fod yn ofer)?

5. Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll?

6. Y mae fel yn achos Abraham: “Credodd yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”

7. Gwyddoch, gan hynny, am bobl ffydd, mai hwy yw plant Abraham.

8. Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: “Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti.”

9. Am hynny, y mae pobl ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, un llawn ffydd.

10. Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!”

11. Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”

12. Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.”

13. Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!”

14. Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.

Y Gyfraith a'r Addewid

15. Gyfeillion, i gymryd enghraifft o'r byd dynol, pan fydd ewyllys, sef cyfamod olaf rhywun, wedi ei chadarnhau, ni chaiff neb ei dirymu nac ychwanegu ati.

16. Yn awr, i Abraham y rhoddwyd addewidion y cyfamod, ac i'w had ef. Ni ddywedir, “ac i'th hadau”, yn y lluosog, ond, “ac i'th had di”, yn yr unigol, a'r un hwnnw yw Crist.

17. Dyma yr wyf yn ei olygu: yn achos cyfamod oedd eisoes wedi ei gadarnhau gan Dduw, nid yw cyfraith, sydd bedwar cant tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ei ddirymu, nes gwneud yr addewid yn ddiddim.

18. Oherwydd, os trwy gyfraith y mae'r etifeddiaeth, yna nid yw mwyach trwy addewid; ond trwy addewid y mae Duw o'i ras wedi ei rhoi i Abraham.

19. Beth, ynteu, am y Gyfraith? Ar gyfrif troseddau yr ychwanegwyd hi, i aros hyd nes y byddai'r had, yr un y gwnaed yr addewid iddo, yn dod. Fe'i gorchmynnwyd trwy angylion, gyda chymorth canolwr.

20. Ond nid oes angen canolwr lle nad oes ond un; ac un yw Duw.

Caethweision a Meibion

21. A yw'r Gyfraith, ynteu, yn groes i addewidion Duw? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd pe bai cyfraith wedi ei rhoi â'r gallu ganddi i gyfrannu bywyd, yna, yn wir, fe fyddai cyfiawnder trwy gyfraith.

22. Ond nid felly y mae; yn ôl dyfarniad yr Ysgrythur, y mae'r byd i gyd wedi ei gaethiwo gan bechod, er mwyn peri mai trwy ffydd yn Iesu Grist, ac i'r rhai sy'n meddu'r ffydd honno, y rhoddid yr hyn a addawyd.

23. Cyn i'r ffydd hon ddod, yr oeddem dan warchodaeth gaeth cyfraith, yn disgwyl am y ffydd oedd i gael ei datguddio.

24. Felly, bu'r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd.

25. Ond gan fod y ffydd hon bellach wedi dod, nid ydym mwyach dan warchodaeth gwas.

26. Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu.

27. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano.

28. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.