8. tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni,
9. oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.
10. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd.
11. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
12. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel.
13. Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy.
14. Am hynny y dywedir:“Deffro, di sydd yn cysgu,a chod oddi wrth y meirw,ac fe dywynna Crist arnat.”
15. Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.
16. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg.
17. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd.
19. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd.
20. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
21. a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
22. Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd;
23. oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff.
24. Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly y mae'n rhaid i'r gwragedd fod i'w gwŷr ym mhob peth.