Hen Destament

Testament Newydd

Actau 5:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dywedodd Pedr wrthi, “Dywed i mi, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” “Ie,” meddai hithau, “am hyn a hyn.”

9. Ac meddai Pedr wrthi, “Sut y bu ichwi gytuno i roi prawf ar Ysbryd yr Arglwydd? Dyma wrth y drws sŵn traed y rhai a fu'n claddu dy ŵr, ac fe ânt â thithau allan hefyd.”

10. Ar unwaith syrthiodd hithau wrth ei draed, a marw. Daeth y dynion ifainc i mewn a'i chael hi'n gorff, ac aethant â hi allan, a'i chladdu gyda'i gŵr.

11. Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn.

12. Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent oll yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.

13. Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,

14. ac yr oedd credinwyr yn cael eu chwanegu fwyfwy at yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd.

15. Yn wir, yr oeddent hyd yn oed yn dod â'r cleifion allan i'r heolydd, ac yn eu gosod ar welyau a matresi, fel pan fyddai Pedr yn mynd heibio y câi ei gysgod o leiaf ddisgyn ar ambell un ohonynt.

16. Byddai'r dyrfa'n ymgynnull hefyd o'r trefi o amgylch Jerwsalem, gan ddod â chleifion a rhai oedd yn cael eu blino gan ysbrydion aflan; ac yr oeddent yn cael eu hiacháu bob un.

17. Ond llanwyd yr archoffeiriad ag eiddigedd, a'r holl rai hynny oedd gydag ef, sef plaid y Sadwceaid.

18. Cymerasant afael yn yr apostolion, a'u rhoi mewn dalfa gyhoeddus.

19. Ond yn ystod y nos agorodd angel yr Arglwydd ddrysau'r carchar a dod â hwy allan;

20. a dywedodd, “Ewch, safwch yn y deml a llefarwch wrth y bobl bob peth ynglŷn â'r Bywyd hwn.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 5