Hen Destament

Testament Newydd

Actau 24:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. “Trwot ti yr ydym yn mwynhau cyflawnder o heddwch, a thrwy dy ddarbodaeth y mae gwelliannau yn dod i ran y genedl hon ym mhob modd ac ym mhob man. Yr ydym yn eu derbyn, ardderchocaf Ffelix, â phob diolchgarwch.

4. Ond rhag i mi dy gadw di yn rhy hir, yr wyf yn deisyf arnat i wrando ar ychydig eiriau gennym, os byddi mor garedig.

5. Cawsom y dyn yma yn bla, yn codi ymrafaelion ymhlith yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn arweinydd yn sect y Nasareaid.

6. Gwnaeth gynnig ar halogi'r deml hyd yn oed, ond daliasom ef.

8. Ac os holi di ef dy hun, gelli gael sicrwydd am bob dim yr ydym yn ei gyhuddo ohono.”

9. Ymunodd yr Iddewon hefyd yn y cyhuddo, gan daeru mai felly yr oedd hi.

10. Yna atebodd Paul, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i lefaru: “Mi wn dy fod di ers llawer blwyddyn yn farnwr i'r genedl hon, ac am hynny yr wyf yn amddiffyn fy achos yn galonnog.

11. Oherwydd gelli gael sicrwydd nad oes dim mwy na deuddeg diwrnod er pan euthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12. Ni chawsant mohonof yn dadlau â neb nac yn casglu tyrfa, yn y deml nac yn y synagogau nac yn y ddinas,

13. ac ni allant brofi i ti y cyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn awr yn fy erbyn i.

14. Ond yr wyf yn cyfaddef hyn i ti, mai yn null y Ffordd, a alwant hwy yn sect, felly yr wyf yn addoli Duw ein hynafiaid. Yr wyf yn credu pob peth sydd yn ôl y Gyfraith ac sy'n ysgrifenedig yn y proffwydi,

15. ac yn gobeithio yn Nuw—ac y maent hwy eu hunain yn derbyn y gobaith hwn, y bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 24