Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:13-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd.

14. Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno.

15. Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.

16. Tra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddwyd ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.

17. Gan hynny, ymresymodd yn y synagog â'r Iddewon ac â'r rhai oedd yn addoli Duw, ac yn y sgwâr bob dydd â phwy bynnag a fyddai yno.

18. Yr oedd rhai o'r athronwyr, yn Epicwriaid a Stoiciaid, yn dadlau ag ef hefyd, a rhai'n dweud, “Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynnu ei ddweud?” Meddai eraill, “Y mae'n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr.” Oherwydd cyhoeddi'r newydd da am Iesu a'r atgyfodiad yr oedd.

19. Cymerasant afael ynddo, a mynd ag ef at yr Areopagus, gan ddweud, “A gawn ni wybod beth yw'r ddysgeidiaeth newydd yma a draethir gennyt ti?

20. Oherwydd yr wyt yn dwyn i'n clyw ni ryw syniadau dieithr. Yr ydym yn dymuno cael gwybod, felly, beth yw ystyr y pethau hyn.”

21. Nid oedd gan neb o'r Atheniaid, na'r dieithriaid oedd ar ymweliad â'r lle, amser i ddim arall ond i adrodd neu glywed y peth diweddaraf.

22. Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: “Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar.

23. Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni'n ysgrifenedig, ‘I Dduw nid adwaenir’. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi'n ei addoli heb ei adnabod, dyna'r hyn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.

24. Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw.

25. Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll.

26. Gwnaeth ef hefyd o un dyn yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod.

27. Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom.

28. “ ‘Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’,“fel, yn wir, y dywedodd rhai o'ch beirdd chwi:“ ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’

29. “Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn.

30. Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau,

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17