Yr oedd rhai o'r athronwyr, yn Epicwriaid a Stoiciaid, yn dadlau ag ef hefyd, a rhai'n dweud, “Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynnu ei ddweud?” Meddai eraill, “Y mae'n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr.” Oherwydd cyhoeddi'r newydd da am Iesu a'r atgyfodiad yr oedd.