Hen Destament

Testament Newydd

Actau 16:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ.

33. Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe'i bedyddiwyd ef a phawb o'i deulu.

34. Yna, wedi dod â hwy i'w dŷ, gosododd bryd o fwyd o'u blaen, a gorfoleddodd gyda'i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.

35. Pan ddaeth yn ddydd, anfonodd yr ynadon y rhingylliaid â'r neges: “Gollwng y dynion hynny'n rhydd.”

36. Adroddodd ceidwad y carchar y neges hon wrth Paul: “Y mae'r ynadon wedi anfon gair i'ch gollwng yn rhydd. Felly, dewch allan yn awr, ac ewch mewn tangnefedd.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 16