4. Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.
5. Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.”
6. Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.
7. Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.
8. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau;
9. ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.
10. Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?
11. Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”
12. Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.
13. Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.