Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 7:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni.

10. Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth.

11. Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath sêl, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn.

12. Felly, er i mi yn wir ysgrifennu atoch, nid o achos y sawl a wnaeth y cam, nac o achos y sawl a'i dioddefodd, y gwneuthum hynny, ond er mwyn amlygu i chwi, yng ngŵydd Duw, gymaint yw eich ymroddiad trosom.

13. Dyna pam yr ydym yn awr wedi ein diddanu.Ond yn ogystal â'n diddanwch ni, cawsom lawenydd mwy o lawer yn llawenydd Titus, am i chwi oll roi esmwythâd i'w ysbryd.

14. Oherwydd os wyf wedi ymffrostio rywfaint wrtho amdanoch chwi, ni chefais fy nghywilyddio, ond fel y mae popeth a ddywedais wrthych chwi yn wir, felly hefyd daeth fy ymffrost wrth Titus yn wir.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 7