Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 2:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch.

8. Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato.

9. Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth.

10. Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist,

11. rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef.

12. Pan ddeuthum i Troas i bregethu Efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i'm gwaith yn yr Arglwydd,

13. ni chefais lonydd i'm hysbryd am na ddeuthum o hyd i'm brawd Titus. Felly cenais yn iach iddynt, a chychwyn am Facedonia.

14. Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono.

15. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, i'r rhai sydd ar lwybr iachawdwriaeth ac i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth;

16. i'r naill, arogl marwol yn arwain i farwolaeth; i'r lleill, persawr bywiol yn arwain i fywyd. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 2