Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bellach, gyfeillion, fel y cawsoch eich hyfforddi gennym ni pa fodd y dylech fyw er mwyn boddhau Duw (ac felly, yn wir, yr ydych yn byw), yr ydym yn gofyn ichwi, ac yn deisyf arnoch yn yr Arglwydd Iesu, i ragori fwyfwy.

2. Oherwydd gwyddoch pa gyfarwyddyd a roddasom ichwi oddi wrth yr Arglwydd Iesu.

3. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol;

4. y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,

5. ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw;

6. nid yw neb i gam-drin ei gyd-grediniwr, na manteisio arno yn ei ymwneud ag ef, oherwydd, fel y dywedasom wrthych o'r blaen, a'ch rhybuddio, y mae'r Arglwydd yn dial am yr holl bethau hyn.

7. Oherwydd galwodd Duw ni, nid i amhurdeb ond i sancteiddrwydd.

8. Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Glân i chwi.

9. Ynglŷn â chariad at eich gilydd, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch; oherwydd yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

10. Ac yn wir, yr ydych yn gwneud hyn i bawb o'r credinwyr trwy Facedonia gyfan; ond yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy:

11. i roi eich bryd ar fyw yn dawel, a dilyn eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, fel y gorchmynasom ichwi.

12. Felly byddwch yn ymddwyn yn weddaidd yng ngolwg y rhai sydd y tu allan, ac ni fydd angen dim arnoch.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 4