Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab.

23. Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.

24. Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad.

25. Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 2