Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Crist, Ein Heiriolwr

1. Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn;

2. ac ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd.

3. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn ei adnabod ef, sef ein bod yn cadw ei orchmynion.

4. Y sawl sy'n dweud, “Rwyf yn ei adnabod”, a heb gadw ei orchmynion, y mae'n gelwyddog, ac nid yw'r gwirionedd ynddo;

5. ond pwy bynnag sy'n cadw ei air ef, yn hwnnw, yn wir, y mae cariad at Dduw wedi ei berffeithio. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod ynddo ef:

6. dylai'r sawl sy'n dweud ei fod yn aros ynddo ef rodio ei hun yn union fel y rhodiodd ef.

Y Gorchymyn Newydd

7. Gyfeillion annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn, un sydd wedi bod gennych o'r dechrau; y gair a glywsoch yw'r hen orchymyn hwn.

8. Eto, yr wyf yn ysgrifennu atoch orchymyn newydd, rhywbeth sydd yn wir ynddo ef ac ynoch chwithau; oherwydd y mae'r tywyllwch yn mynd heibio, a'r gwir oleuni eisoes yn tywynnu.

9. Y sawl sy'n dweud ei fod yn y goleuni, ac yn casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae o hyd.

10. Y mae'r sawl sy'n caru ei gydaelod yn aros yn y goleuni, ac nid oes dim ynddo i faglu neb.

11. Ond y sawl sy'n casáu ei gydaelod, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae'n rhodio, ac nid yw'n gwybod lle y mae'n mynd, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.

12. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, blant,am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy ei enw ef.

13. Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau,am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.Rwyf yn ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,am eich bod wedi gorchfygu'r Un drwg.Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, blant,am eich bod yn adnabod y Tad.

14. Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, dadau,am eich bod yn adnabod yr hwn sydd wedi bod o'r dechreuad.Rwyf wedi ysgrifennu atoch chwi, wŷr ifainc,am eich bod yn gryf,ac am fod gair Duw yn aros ynoch,a'ch bod wedi gorchfygu'r Un drwg.

15. Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,

16. oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd.

17. Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.

Yr Anghrist

18. Blant, dyma'r awr olaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dod, yn awr dyma anghristiau lawer wedi dod; wrth hyn yr ydym yn gwybod mai dyma'r awr olaf.

19. Aethant allan oddi wrthym ni, ond nid oeddent yn perthyn i ni, oherwydd pe byddent yn perthyn i ni, byddent wedi aros gyda ni; dangoswyd felly nad oedd neb ohonynt yn perthyn i ni.

20. Ond amdanoch chwi, y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod.

21. Nid am nad ydych yn gwybod y gwirionedd yr wyf yn ysgrifennu atoch, ond am eich bod yn ei wybod, ac yn gwybod hefyd am bob celwydd, nad yw o'r gwirionedd.

22. Pwy yw'r un celwyddog, ond y sawl sy'n gwadu mai Iesu yw'r Crist? Dyma'r Anghrist, sef yr un sy'n gwadu'r Tad a'r Mab.

23. Pob un sy'n gwadu'r Mab, nid yw'r Tad ganddo chwaith; y sawl sy'n cyffesu'r Mab, y mae'r Tad ganddo hefyd.

24. Chwithau, bydded i'r hyn a glywsoch o'r dechrau aros ynoch. Os bydd yr hyn a glywsoch o'r dechrau yn aros ynoch, byddwch chwithau hefyd yn aros yn y Mab ac yn y Tad.

25. Dyma'r hyn a addawodd ef i ni, sef bywyd tragwyddol.

26. Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â'r rhai sydd am eich arwain ar gyfeiliorn.

27. A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.

Plant Duw

28. Ac yn awr, blant, arhoswch ynddo ef, er mwyn inni, pan fydd ef yn ymddangos, gael hyder a bod heb gywilydd arnom ger ei fron ef ar ei ddyfodiad.