Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 8:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Nid bwyd sy'n mynd i'n cymeradwyo ni i Dduw. Nid ydym ar ein colled o beidio â bwyta, nac ar ein hennill o fwyta.

9. Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan.

10. Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod?

11. Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto.

12. Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 8