Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. na lladron, na rhai trachwantus, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

11. A dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi'ch golchi, a'ch sancteiddio, a'ch cyfiawnhau trwy enw'r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

12. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon i mi,” meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i.

13. “Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd,” meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6