Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 2:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant.

9. Ond fel y mae'n ysgrifenedig:“Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust,ac na ddaeth i feddwl neb,y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.”

10. Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw.

11. Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 2