Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 2:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni.

13. Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd.

14. Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu.

15. Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb.

16. Yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd,i'w gyfarwyddo?”Ond y mae meddwl Crist gennym ni.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 2