Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 16:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe gânt deithio gyda mi.

5. Mi ddof atoch chwi ar ôl mynd trwy Facedonia, oherwydd trwy Facedonia yr wyf am deithio.

6. Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd.

7. Oherwydd nid wyf am edrych amdanoch, y tro hwn, fel un yn taro heibio ar ei hynt. Rwy'n gobeithio cael aros gyda chwi am beth amser, os bydd yr Arglwydd yn caniatáu.

8. Ond rwyf am aros yn Effesus tan y Pentecost.

9. Oherwydd y mae drws llydan wedi ei agor imi, un addawol, er bod llawer o wrthwynebwyr.

10. Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd.

11. Am hynny, peidied neb â'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd â sêl eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr.

12. Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.

13. Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch.

14. Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.

15. Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 16