Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist.

8. Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.

9. Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.

10. Yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ar i chwi oll fod yn gytûn; na foed ymraniadau yn eich plith, ond byddwch wedi eich cyfannu yn yr un meddwl a'r un farn.

11. Oherwydd hysbyswyd fi amdanoch, fy nghyfeillion, gan rai o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith.

12. Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, neu, “Minnau, i blaid Apolos”, neu, “Minnau, i blaid Ceffas”, neu, “Minnau, i blaid Crist”.

13. A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul?

14. Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius;

15. peidied neb â dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i.

16. O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall.

17. Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid â doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1