Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul?

14. Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius;

15. peidied neb â dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i.

16. O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall.

17. Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid â doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.

18. Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1