Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 99:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.

2. Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.

3. Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—sanctaidd yw ef.

4. Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.

5. Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;ymgrymwch o flaen ei droedfainc—sanctaidd yw ef.

6. Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.

7. Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl;cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 99