Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 91:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;

10. ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

11. Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylioni'th gadw yn dy holl ffyrdd;

12. byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.

13. Byddi'n troedio ar y llew a'r asb,ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.

14. “Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf;fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.

15. Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf;byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder,gwaredaf ef a'i anrhydeddu.

16. Digonaf ef â hir ddyddiau,a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 91