Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 85:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Oni fyddi'n ein hadfywio eto,er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?

7. Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,a rho dy waredigaeth inni.

8. Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.

9. Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.

10. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.

11. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,a'n tir yn rhoi ei gnwd.

13. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 85