Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 80:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?

5. Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.

6. Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.

7. O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

8. Daethost â gwinwydden o'r Aifft;gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;

9. cliriaist y tir iddi;magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.

10. Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,a'i changau fel y cedrwydd cryfion;

11. estynnodd ei brigau at y môr,a'i blagur at yr afon.

12. Pam felly y bylchaist ei chloddiau,fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 80