1. Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi;paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad.
2. Gwrando arnaf ac ateb fi;yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn.
3. Yr wyf bron â drysu gan sŵn y gelyn,gan grochlefain y drygionus;oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf,ac ymosod arnaf yn eu llid.
4. Y mae fy nghalon mewn gwewyr,a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf.
5. Daeth arnaf ofn ac arswyd,ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn.
6. A dywedais, “O na fyddai gennyf adenydd colomen,imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso!
7. Yna byddwn yn crwydro ymhellac yn aros yn yr anialwch;Sela
8. “brysiwn i gael cysgodrhag y gwynt stormus a'r dymestl.”
9. O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10. ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11. dinistr yn ei chanol;ac nid yw twyll a gorthrwmyn ymadael o'i marchnadfa.
12. “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—gallwn oddef hynny;nid un o'm caseion a'm bychanodd—gallwn guddio rhag hwnnw;
13. ond ti, fy nghydradd,fy nghydymaith, fy nghydnabod—
14. buom mewn cyfeillach felys â'n gilyddwrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.