Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 50:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.Sela

7. “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;myfi yw Duw, dy Dduw di.

8. Ni cheryddaf di am dy aberthau,oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.

9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;

10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.

11. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.

12. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.

13. A fwytâf fi gig eich teirw,neu yfed gwaed eich bychod geifr?

14. Rhowch i Dduw offrymau diolch,a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.

15. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”

16. Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?

17. Yr wyt yn casáu disgyblaethac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.

18. Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,a bwrw dy goel gyda godinebwyr.

19. Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,a'th dafod yn nyddu twyll.

20. Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,ac yn enllibio mab dy fam.

21. Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.

22. “Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw,rhag imi eich darnio heb neb i arbed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 50