6. Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.Sela
7. “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;myfi yw Duw, dy Dduw di.
8. Ni cheryddaf di am dy aberthau,oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.
9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;
10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.
12. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.
13. A fwytâf fi gig eich teirw,neu yfed gwaed eich bychod geifr?
14. Rhowch i Dduw offrymau diolch,a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.
15. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”
16. Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?