Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 50:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”

16. Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?

17. Yr wyt yn casáu disgyblaethac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.

18. Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,a bwrw dy goel gyda godinebwyr.

19. Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,a'th dafod yn nyddu twyll.

20. Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,ac yn enllibio mab dy fam.

21. Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 50