Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 37:21-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl,ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.

22. Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir,ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.

23. Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius,y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;

24. er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr,oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law.

25. Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen,ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael,na'i blant yn cardota am fara;

26. y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg,a'i blant yn fendith.

27. Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda,a chei gartref diogel am byth,

28. oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn,ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid;ond difethir yr anghyfiawn am byth,a thorrir ymaith blant y drygionus.

29. Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir,ac yn cartrefu ynddo am byth.

30. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,a'i dafod yn mynegi barn;

31. y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon,ac nid yw ei gamau'n methu.

32. Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawnac yn ceisio cyfle i'w ladd;

33. ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law,nac yn caniatáu ei gondemnio pan fernir ef.

34. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd,ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir,a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 37