Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 26:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid,ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd.

4. Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth,nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.

5. Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg,ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.

6. Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog,ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,

7. a chanu'n uchel mewn diolchgarwchac adrodd dy holl ryfeddodau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 26