Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 139:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Os cymeraf adenydd y wawra thrigo ym mhellafoedd y môr,

10. yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.

11. Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio,a'r nos yn cau amdanaf”,

12. eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;y mae'r nos yn goleuo fel dydd,a'r un yw tywyllwch a goleuni.

13. Ti a greodd fy ymysgaroedd,a'm llunio yng nghroth fy mam.

14. Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.Yr wyt yn fy adnabod mor dda;

15. ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthytpan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 139