Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 6:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Oherwydd y mae'r erthyl yn dod mewn gwagedd ac yn mynd ymaith mewn tywyllwch, lle cuddir ei enw;

5. eto caiff hwn, er na welodd yr haul na gwybod am ddim, fwy o lonyddwch na'r llall,

6. hyd yn oed pe byddai hwnnw'n byw am fil o flynyddoedd ddwywaith drosodd, ond heb brofi daioni. Onid ydynt i gyd yn mynd i'r un lle?

7. Y mae holl lafur pobl ar gyfer eu genau, ond eto ni ddiwellir eu chwant.

8. Pa fantais sydd gan y doeth ar y ffôl, neu gan y tlawd a ŵyr sut i ymddwyn yng ngŵydd pobl?

9. Gwell gweld â'r llygaid na blys anniwall. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

10. Y mae'r hyn sydd eisoes yn bod yn hysbys, ac fe wyddys beth yw pobl; ni allant ddadlau ag un cryfach na hwy.

11. Y mae amlhau geiriau yn amlhau gwagedd; a pha fantais sydd i neb?

12. Pwy a ŵyr beth sydd dda i neb yng nghyfnod byr ei fywyd gwag, a dreulia fel cysgod? Pwy all ddweud wrtho beth dan yr haul a ddaw ar ei ôl?

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 6