Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma ddrwg a welais dan yr haul, ac y mae'n flinder ar bobl:

2. un wedi cael cyfoeth, meddiannau ac anrhydedd gan Dduw, heb fod yn brin o ddim a ddymunai, ac eto heb gael gan Dduw y gallu i'w mwynhau, ond dieithryn yn hytrach yn cael mwynhad ohonynt. Y mae hyn yn wagedd ac yn gystudd blin.

3. Pe byddai rhywun yn rhiant i gant o blant, yn byw am flynyddoedd lawer ac yn cael oes hir, ond heb allu mwynhau daioni bywyd na chael ei gladdu, yna dywedaf ei bod yn well ar yr erthyl nag arno ef.

4. Oherwydd y mae'r erthyl yn dod mewn gwagedd ac yn mynd ymaith mewn tywyllwch, lle cuddir ei enw;

5. eto caiff hwn, er na welodd yr haul na gwybod am ddim, fwy o lonyddwch na'r llall,

6. hyd yn oed pe byddai hwnnw'n byw am fil o flynyddoedd ddwywaith drosodd, ond heb brofi daioni. Onid ydynt i gyd yn mynd i'r un lle?

7. Y mae holl lafur pobl ar gyfer eu genau, ond eto ni ddiwellir eu chwant.

8. Pa fantais sydd gan y doeth ar y ffôl, neu gan y tlawd a ŵyr sut i ymddwyn yng ngŵydd pobl?

9. Gwell gweld â'r llygaid na blys anniwall. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

10. Y mae'r hyn sydd eisoes yn bod yn hysbys, ac fe wyddys beth yw pobl; ni allant ddadlau ag un cryfach na hwy.

11. Y mae amlhau geiriau yn amlhau gwagedd; a pha fantais sydd i neb?

12. Pwy a ŵyr beth sydd dda i neb yng nghyfnod byr ei fywyd gwag, a dreulia fel cysgod? Pwy all ddweud wrtho beth dan yr haul a ddaw ar ei ôl?