Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Unwaith eto ystyriais yr holl orthrymderau sy'n digwydd dan yr haul. Gwelais ddagrau y rhai a orthrymwyd, ac nid oedd neb i'w cysuro; yr oedd nerth o blaid eu gorthrymwyr, ac nid oedd neb i'w cysuro.

2. Yna deuthum i'r casgliad ei bod yn well ar y rhai sydd eisoes wedi marw na'r rhai sy'n dal yn fyw.

3. Ond gwell na'r ddau yw'r rhai sydd eto heb eu geni, ac sydd heb weld y drwg a wneir dan yr haul.

4. Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 4