Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 7:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Aeth â hwy i mewn i'r tŷ, ac meddai wrth Edna ei wraig, “Onid yw'r gŵr ifanc yma'n debyg i'm perthynas Tobit?”

3. A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”

4. Holodd ymhellach: “A ydych chwi'n adnabod Tobit ein perthynas?” “Ydym,” meddent, “yr ydym yn ei adnabod.” “A yw ef yn iach?” gofynnodd hi.

5. “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”

6. Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 7