Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 14:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ar ei wely angau galwodd ato ei fab Tobias a rhoi'r gorchymyn hwn iddo:

4. “Fy machgen, cymer dy blant a ffo i Media, oherwydd yr wyf fi'n credu gair Duw, y gair a lefarodd Nahum yn erbyn Ninefe. Fe gyflawnir y cyfan. Fe ddigwydd pob peth i Asyria a Ninefe yn union fel y llefarodd cenhadon Duw, proffwydi Israel; ni fydd yr un o'u holl eiriau yn methu. Fe ddigwydd pob peth yn ei amser priodol. Yn Media, felly, y cewch ddiogelwch, nid yn Asyria a Babilon, oherwydd y mae'n gred sicr gennyf y cyflawnir pob gair a lefarodd Duw. Dyma a fydd—ni fydd yr un gair o'r proffwydoliaethau yn methu. Fe wasgerir ein holl berthnasau sy'n preswylio yng ngwlad Israel, a'u dwyn yn gaeth o'u tir da. Bydd y cwbl o dir Israel yn anghyfannedd; a bydd Samaria a Jerwsalem yn anghyfannedd, ac am gyfnod bydd tŷ Dduw mewn galar, wedi ei ddifetha drwy dân.

5. “Ond eto fe drugarha Duw wrthynt, ac fe ddaw Duw â hwy yn ôl i dir Israel. Ailgodant ei dŷ, er na fydd yn debyg i'r tŷ cyntaf, nid nes y daw'r cyfnod penodedig o amser i ben. Wedi hynny, daw pob un yn ôl o'u caethglud ac adeiladu Jerwsalem yn ei holl ogoniant. Fe godir tŷ Dduw ynddi, fel y llefarodd proffwydi Israel amdani.

6. Bydd pob cenedl ar draws y byd, pob un ohonynt, yn troi'n ôl at Dduw mewn parchedig ofn diffuant; ymwrthodant oll â'u heilunod, a fu'n eu harwain ar gyfeiliorn i ffordd anwiredd,

7. a bendithiant y Duw tragwyddol mewn cyfiawnder. Ac fe gesglir ynghyd holl blant Israel a achubir yn y dyddiau hynny ac sy'n wir deyrngar i Dduw. Dychwelant i Jerwsalem a phreswylio yn ddiogel am byth yn nhir Abraham, a roddir iddynt i'w feddiannu. Bydd y rhai sy'n caru Duw mewn gwirionedd yn llawenhau, ond diflannu y bydd y pechaduriaid a'r drwgweithredwyr oddi ar wyneb y ddaear.

8. Ac yn awr, fy mhlant, dyma fy ngorchymyn i chwi: gwasanaethwch Dduw mewn gwirionedd, a gwnewch yr hyn sy'n gymeradwy yn ei olwg ef;

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 14