Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 14:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “A thithau, fy machgen, dos allan o Ninefe. Paid ag aros yma. Y dydd y byddi'n claddu dy fam wrth fy ochr, ymfuda heb dreulio noson o fewn cyffiniau'r ddinas, oherwydd yr wyf yn gweld bod anghyfiawnder yn rhemp ac anffyddlondeb digywilydd yn uchel ei ben ynddi. Ystyria, fy machgen, yr holl bethau a wnaeth Nadab i Achicar, yr un a'i magodd. Oni orfodwyd ef i ymguddio yn y pridd, ac yntau'n fyw? Ond troes Duw y weithred gywilyddus yn fantais iddo: daeth Achicar allan i olau dydd, tra syrthiodd Nadab i fagl farwol, ac fe'i lladdodd. Am iddo roi elusen, fe ddihangodd Achicar o'r fagl farwol a osododd Nadab iddo, ond syrthiodd Nadab i'r fagl farwol, ac fe'i lladdodd.

11. Ystyriwch, felly, fy mhlant, beth yw ffrwyth elusengarwch, a beth yw ffrwyth anghyfiawnder, oherwydd lladd y mae hwnnw. Ond yn awr y mae fy einioes yn dod i ben.”Rhoesant ef i orwedd ar ei wely, a bu farw. Claddwyd ef yn llawn clod.

12. Wedi marw ei fam, claddodd Tobias hithau wrth ochr ei dad. Yna aeth Tobias a'i wraig i Media, ac ymsefydlu yn Ecbatana yn nhÅ· Ragwel ei dad-yng-nghyfraith.

13. Gofalodd Tobias amdanynt yn eu henaint â phob parch, a'u claddu yn Ecbatana yn Media. Etifeddodd Tobias holl eiddo Ragwel yn ogystal ag eiddo Tobit ei dad.

14. Bu farw'n uchel ei barch, ac yntau'n gant a dwy ar bymtheng mlwydd oed.

15. Cyn iddo farw cafodd wybod am ddinistr Ninefe, gan weld ei chaethglud i Media, a gyflawnwyd gan Achiacharus brenin Media. Bendithiodd Dduw am yr holl bethau a wnaeth i bobl Ninefe ac Asyria. Cyn iddo farw, felly, cafodd lawenhau dros Ninefe, a bendithiodd yr Arglwydd Dduw yn oes oesoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 14