Os dychwelwch ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,a gweithredu'n gywir ger ei fron,yna fe ddychwel atoch chwi,ac ni chuddia'i wyneb oddi wrthych ddim mwy.Ystyriwch yn awr y pethau a wnaeth yn eich plith,a chlodforwch ef ar uchaf eich llais.Bendithiwch yr Arglwydd cyfiawn a dyrchafwch y Brenin tragwyddol.