Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 13:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma gân Tobit:“Bendigedig fo'r Duw bytholfyw a'i deyrnas ef!

2. Oherwydd ef sy'n cosbi, ac yn trugarhau.Ef sy'n bwrw pobl i lawr hyd ddyfnder eithaf y bedd,ac ef hefyd sy'n eu codi i fyny o'r dinistr mawr.Nid oes dim a all ddianc rhag ei law.

3. Clodforwch ef gerbron y Cenhedloedd, blant Israel,oherwydd ef a'ch gwasgarodd yn eu plith hwy;

4. ac yno dangosodd ei fawredd i chwi.Dyrchafwch ef, felly, gerbron pob un byw,oherwydd ef yw ein Harglwydd; ef yw ein Duw;

5. “Fe'ch cosba chwi am eich anghyfiawnderau,ac eto fe drugarha wrthych chwi oll,a'ch cynnull o blith yr holl genhedloedd,lle bynnag y'ch gwasgarwyd chwi yn eu plith.

6. Os dychwelwch ato â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,a gweithredu'n gywir ger ei fron,yna fe ddychwel atoch chwi,ac ni chuddia'i wyneb oddi wrthych ddim mwy.Ystyriwch yn awr y pethau a wnaeth yn eich plith,a chlodforwch ef ar uchaf eich llais.Bendithiwch yr Arglwydd cyfiawn a dyrchafwch y Brenin tragwyddol.

10. ‘Fe ailadeiledir dy babell iti mewn llawenyddi fod yn achos gorfoledd ynot i'r holl rai a alltudiwyd,ac yn arwydd o gariad ynot i'r holl drueiniaid ym mhob cenhedlaeth am byth.

11. Llewyrcha disgleirdeb dy oleuni i holl derfynau'r ddaear;daw cenhedloedd lawer atat o bell,a thrigolion holl eithafoedd y ddaear at dy enw sanctaidd,a'u rhoddion yn eu dwylo i'w cyflwyno i Frenin y Nef.Bydd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn gorfoleddu ynot,ac fe bery enw'r ddinas etholedig am byth.

12. Bydd melltith ar bawb a ddywed ddrygair wrthyt,a melltith ar bawb a gais dy ddifrodi a thynnu dy furiau i lawr,ar bawb a gais ddymchwel dy dyrau a rhoi dy drigfannau ar dân;ond bydd bendith am byth ar bawb sy'n dy barchu di.

13. Tyrd, felly, ac ymlawenha ym mhlant y cfiawn,am y byddant oll wedi eu casglu ynghydac yn bendithio'r Arglwydd tragwyddol.Gwyn eu byd y rhai sy'n dy garu;gwyn eu byd y rhai sy'n llawenhau yn dy lwyddiant.

14. Gwyn eu byd pawb sy'n gofidio amdanat ar gyfrif dy holl gystuddiau,oherwydd fe gânt lawenhau ynot ac edrych ar dy holl lawenydd am byth.

15. Fy enaid, bendithia'r Arglwydd, y Brenin mawr,

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 13