Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 11:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cerddodd Tobias ato â bustl y pysgodyn yn ei law; chwythodd ar ei lygaid, a chan afael yn dynn ynddo dywedodd, “Paid ag ofni, fy nhad.”

12. Rhoes yr eli ar ei lygaid a'i daenu drostynt.

13. Yna, â'i ddwy law fe dynnodd y bilen wen oddi ar gil llygaid ei dad. Cofleidiodd Tobit ei fab; torrodd i wylo a dweud,

14. “Rwy'n gallu dy weld, fy mhlentyn, goleuni fy llygaid.” Ychwanegodd, “Bendigedig fyddo Duw! Bendigedig fyddo'i enw mawr! Bendigedig fyddo'i holl angylion sanctaidd! Boed ei enw mawr arnom, a bendith ar ei holl angylion sanctaidd yn oes oesoedd!

15. Oherwydd cosbodd fi â'i ffrewyll, ond yn awr dyma fi'n gallu gweld Tobias fy mab.”Aeth Tobias i mewn yn llawen, gan fendithio Duw ar uchaf ei lais. Adroddodd Tobias wrth ei dad am lwyddiant ei daith, ei fod wedi dod â'r arian, ac wedi cael Sara ferch Ragwel yn wraig iddo a'i bod hi eisoes ar gyrraedd wrth borth Ninefe.

16. Yna aeth Tobit allan i borth Ninefe yn llawen i gyfarfod ei ferch-yng-nghyfraith, gan fendithio Duw. Daeth syndod ar drigolion Ninefe o weld Tobit yn cerdded a rhodio'n llawn egni heb neb i'w dywys,

17. a thystiodd Tobit ger eu bron sut y trugarhaodd Duw wrtho ac agor ei lygaid. Pan ddaeth Tobit at Sara, gwraig Tobias ei fab, bendithiodd hi â'r geiriau hyn: “Croeso cynnes iti, fy merch! Bendigedig fyddo Duw, sydd wedi dod â thi atom, fy merch! Boed bendith ar dy dad, bendith ar Tobias fy mab, a bendith arnat ti, fy merch! Croeso i'th gartref newydd, a bendith a llawenydd iti! Croeso, fy merch!” A'r diwrnod hwnnw bu dathlu llawen ymhlith yr holl Iddewon oedd yn Ninefe.

18. A daeth Achicar a Nabad, ei gefndyr, at Tobit i ddathlu.

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 11