Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 10:12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Yna dywedodd wrth Sara ei ferch, “Dos at dy dad-yng-nghyfraith, oherwydd o hyn ymlaen byddant hwy'n dad a mam iti, fel y tad a'r fam a'th genhedlodd. Dos mewn tangnefedd, fy merch. Rwyf am glywed gair da amdanat, tra byddaf byw.” Fe'u cusanodd a'u hanfon ar eu ffordd. A dywedodd Edna wrth Tobias, “Fy machgen, a'm brawd annwyl, doed yr Arglwydd â thi'n ôl, fel y caf fyw i weld dy blant di a Sara fy merch cyn imi farw. Yng ngŵydd yr Arglwydd yr wyf yn rhoi fy merch yn dy ofal di; paid ag achosi poen iddi holl ddyddiau dy fywyd. Dos mewn tangnefedd, fy machgen; o hyn ymlaen byddaf fi'n fam iti, a Sara'n chwaer iti. Doed llwyddiant i ni i gyd holl ddyddiau ein bywyd.” Cusanodd y ddau ohonynt, a'u hanfon ymaith yn holliach.

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 10

Gweld Tobit 10:12 mewn cyd-destun