Tobit 10:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Felly ffarweliodd â hwy, gan gusanu Tobias. “Yn iach iti, fy machgen,” meddai wrtho, “bendith ar dy siwrnai! Bydded i Arglwydd y nef dy lwyddo di a Sara dy wraig! Rwyf am weld geni plant ichwi cyn imi farw.”