1. Gwae'r ddinas orthrymus,yr un wrthryfelgar a budr!
2. Ni wrandawodd ar lais neb,ac ni dderbyniodd gyngor;nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,ac ni nesaodd at ei Duw.
3. Llewod yn rhuo yn ei chanoloedd ei swyddogion;ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr,heb adael dim tan y bore;
4. ei phroffwydi'n rhyfygusac yn rhai twyllodrus;ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredigac yn treisio'r gyfraith.
5. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;nid yw'n gwneud cam;fore ar ôl bore y mae'n traddodi barnheb ballu ar doriad y dydd;ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.
6. “Torrais ymaith genhedloedd,ac y mae eu tyrau'n garnedd;gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwchnad eir trwyddo;anrheithiwyd eu dinasoedd,heb bobl, heb drigiannydd.
7. Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofnia derbyn cyngor,ac ni chyll olwg ar y cyfana ddygais arni.’Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.
8. “Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedda chynnull teyrnasoedd,i dywallt fy nicter arnynt,holl gynddaredd fy llid;oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.
9. “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDDa'i wasanaethu'n unfryd.
10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopiay dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgarsy'n ymbil arnaf.
11. “Ar y dydd hwnnwni'th waradwyddir am dy holl waithyn gwrthryfela i'm herbyn;oherwydd symudaf o'th blithy rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafuyn fy mynydd sanctaidd.