Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Pechod a Gwaredigaeth Jerwsalem

1. Gwae'r ddinas orthrymus,yr un wrthryfelgar a budr!

2. Ni wrandawodd ar lais neb,ac ni dderbyniodd gyngor;nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,ac ni nesaodd at ei Duw.

3. Llewod yn rhuo yn ei chanoloedd ei swyddogion;ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr,heb adael dim tan y bore;

4. ei phroffwydi'n rhyfygusac yn rhai twyllodrus;ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredigac yn treisio'r gyfraith.

5. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;nid yw'n gwneud cam;fore ar ôl bore y mae'n traddodi barnheb ballu ar doriad y dydd;ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.

6. “Torrais ymaith genhedloedd,ac y mae eu tyrau'n garnedd;gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwchnad eir trwyddo;anrheithiwyd eu dinasoedd,heb bobl, heb drigiannydd.

7. Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofnia derbyn cyngor,ac ni chyll olwg ar y cyfana ddygais arni.’Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.

8. “Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedda chynnull teyrnasoedd,i dywallt fy nicter arnynt,holl gynddaredd fy llid;oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.

9. “Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDDa'i wasanaethu'n unfryd.

10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopiay dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgarsy'n ymbil arnaf.

11. “Ar y dydd hwnnwni'th waradwyddir am dy holl waithyn gwrthryfela i'm herbyn;oherwydd symudaf o'th blithy rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafuyn fy mynydd sanctaidd.

12. Ond gadawaf yn dy fysgbobl ostyngedig ac isel,a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

13. ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd,ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau;oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.”

Cân o Lawenydd

14. Cân, ferch Seion;gwaedda'n uchel, O Israel;llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem.

15. Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,a symud dy elynion.Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,ac nid ofni ddrwg mwyach.

16. Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem,“Nac ofna, Seion,ac na laesa dy ddwylo;

17. y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol,yn rhyfelwr i'th waredu;fe orfoledda'n llawen ynot,a'th adnewyddu yn ei gariad;llawenycha ynot â chân

18. fel ar ddydd gŵyl.Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt,rhag bod iti gywilydd o'i blegid.

19. Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw;gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig,a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.

20. Y pryd hwnnw,pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref;oherwydd rhof i chwi glod ac enwymhlith holl bobloedd y ddaear,pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.