Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 5:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear.

10. Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “I ble maent yn mynd â'r gasgen?”

11. Dywedodd wrthyf, “I godi tŷ iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 5